Friday, 3 September 2010

Pethau arswydus bychain.

Heddiw yw diwrnod pethau bychain, sy'n annog i bobl gwneud rhywbeth arlein yn y Gymraeg - felly be gwell na chofnod blog am ffilmiau arswyd?!

Yn bennaf, bydd well i mi son am wyl Abertoir, yr unig wyl arswyd yng Nghymru. Pob blwyddyn ym mis Tachwedd yn Aberystwyth bydd pum diwrnod o ffilmiau, cerddoriaeth, theatr a gwesteion arbennig. Blwyddyn yma bydd yr wyl yn digwydd o'r 10fed i'r 14eg o Dachwedd, a, er bod y rhaglen llawn ddim ar gael eto, mae'n edrych fel bydd yr wyl yn un o'r gorau hyd yn hyn, gyda'r gwesteion yn cynnwys Ingrid Pitt a Robin Hardy, a cerddoriaeth gan gwrp pync The Damned (gyda chefnogaeth gan fferfynnau Zombina and the Skeletones).

Gobeithio bydd un neu ddau o ffilmiau Cymraeg yn cael eu cynnwys yn yr wyl. Mae'r wyl yn wastad yn chwilio am ffilmiau arswyd Cymraeg i'w cefnogi, felly os oes ffilm arswyd gennych chi - unai ffilm hir neu un fer - cofiwch bod Abertoir yn wyl flynyddol a fedrwch ymgeisio'ch ffilm ar gyfer gwyl 2011!

Am fwy o wybodaeth am Abertoir, ewch i www.abertoir.co.uk, ac am fwy o wybodaeth am Pethau Bychain, chwilich blogiau a Twitter am y tag #pethaubychain - a chyfranwch rhywbeth bach eich hunain!